Cwrs Dylunio Cynnyrch ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø yn ystod cyfyngiadau symud cyfredol COVID-19
Cyfres o Ddarlithoedd Dylunio o dan Gyfyngiadau Symud gyda Jude Pullen.
Mae cyfyngiadau symud cyfredol COVID-19 wedi rhoi terfyn ar ddysgu wyneb yn wyneb mewn Prifysgolion. Mae cyrsiau dylunio wedi canslo digwyddiadau fel Sioeau Gradd Dylunio, ac mae Prifysgol Âé¶¹Íø hefyd wedi canslo Cynhadledd Ddylunio flynyddol hynod Âé¶¹Íø i fyfyrwyr y graddau BSc Dylunio Cynnyrch a'r MSc Dylunio ac Arloesi, sy'n dod ag arbenigwyr o'r diwydiant a myfyrwyr ynghyd. Golygai hynny fod y myfyrwyr yn colli allan ar elfen allweddol o brofiad y myfyrwyr a'r dysgu.
Un o gwestiynau allweddol y cwrs dylunio cynnyrch oedd 'Sut allwn ni weithio o fewn y cyfyngiadau cyfredol a dal i ymgysylltu ag arbenigwyr y diwydiant a chynnig profiad dysgu gwerthfawr i'n myfyrwyr dylunio a pharhau i estyn allan i'r gymuned ehangach'.
Mae Cyfres y Darlithoedd Dylunio o dan Gyfyngiadau Symud yn ceisio ateb yr angen hwn.
Ar y cyd â Jude Pullen (Technolegydd ac Arbenigwr Prototeipio sydd â chefndir yn niwydiant trwy ei waith gyda Dyson, Sugru a LEGO), crewyd cyfres bwrpasol o ddarlithoedd a'u curadu'n ofalus i ddarparu profiadau dysgu gwerthfawr nid yn unig i fyfyrwyr Dylunio Cynnyrch ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø ond i bob myfyriwr dylunio. Mae Jude wedi siarad deirgwaith yng nghynhadledd Ddylunio Âé¶¹Íø ac mae hefyd yn adnabyddus am ei ymddangosiadau ar Big Life Fix ar BBC 2 gyda Simon Reeve a Great British Inventions Channel 4 gyda Syr David Jason.
Bydd y 'Gyfres Darlithoedd Dylunio o dan Gyfyngiadau Symud' yn fwy na chyfres arall o gyrsiau ar-lein; byddant yn rhyngweithiol ac yn defnyddio nodweddion newydd y llwyfannau cymdeithasol fel fideos You Tube sydd wedi'u recordio ymlaen llaw a sgyrsiau byw rhwng Jude a'r myfyrwyr.
Bydd rhai o'r darlithoedd hefyd yn rhoi sylw i'r materion cyfredol sy'n wynebu llawer o raddedigion dylunio sef dod o hyd i waith, gweithio a chydweithio o bell yn ystod y sefyllfa bresennol.
https://www.youtube.com/user/JudePullen
/education-and-human-development/design/lockdown-design-lecture.php.en
Dywedodd Chloe Shaw, myfyrwraig yn ei hail flwyddyn sy'n astudio dylunio cynnyrch ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø mewn neges Instagram:“Gwylio cyflwyniad Jude Pullen i’r gyfres ddarlithoedd o dan gyfyngiadau symud at yr wythnosau nesaf!
Dyma ffordd wych o gadw ymdeimlad o normalrwydd fel dylunydd, o ystyried holl brofiad gwych Jude a'r hyn sydd ganddo i'w rannu gyda ni! Rwy'n ddiolchgar iawn i @productdesignbangor am ein helpu trwy'r amser anodd hwn gyda'r darlithoedd ar-lein, galwadau fideo tîm fel dosbarth a sefydlu hyn gyda Jude oherwydd bod ein cynhadledd ddylunio wedi'i chanslo!â€