Dim ond 19% o bobl sy’n dioddef o ddementia a gafodd gynnig asesiad a chynllun cymorth ar adeg y diagnosis yn ôl arolwg diweddar gan y Gymdeithas Alzheimer yng Nghymru (Cymdeithas Alzheimer Cymru, 2022). Mae'r canfyddiadau hyn yn awgrymu y gallai fod llawer o waith ar ôl i'w wneud cyn bod modd gwireddu nod Llywodraeth Cymru i Gymru fod yn wlad sy'n deall dementia.
Nod astudiaeth effaith Cymorth Dementia Prin yw dysgu mwy am hyn. Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol 鶹 yn cynnal rhan o'r astudiaeth hon, sy'n astudio’r broses o gael diagnosis yn fanylach. Pwrpas yr ymchwil hwn yw gwella profiad pobl yn y dyfodol, trwy ddysgu gan y rhai sydd wedi bod drwy’r broses eisoes.
Meddai Dr Jen Roberts, ymchwilydd yng Nghanolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru ym Mhrifysgol 鶹,
“Mae ymchwil yn awgrymu bod cael diagnosis a chymorth yn hanfodol er mwyn gallu parhau i fyw cystal â phosib am gyhyd â phosib. Rydym yn gwybod bod llai o adnoddau’n dueddol o fod ar gael i bobl mewn ardaloedd gwledig yn rhyngwladol. A yw hyn yn wir yng Nghymru, sy’n wlad wledig i raddau helaeth? Mae’n bwysig inni ddarganfod nid yn unig ble mae’r anawsterau, ond hefyd dod o hyd i enghreifftiau o fathau o gymorth sy’n gweithio’n dda i bobl. Cyflwynir canfyddiadau’r ymchwil hwn i Lywodraeth Cymru, ac rydym yn gobeithio y byddant yn cyfrannu at wneud gwahaniaeth gwirioneddol i brofiad pobl o gael diagnosis o ddementia yng Nghymru yn y dyfodol.”
Hoffai'r tîm ymchwil glywed profiad personol pobl a'u barn am yr hyn sydd angen ei wella. Maent hefyd yn gobeithio clywed am wasanaethau neu gefnogaeth sydd wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol neu fuddiol.
Mae’r astudiaeth ymchwil hon yn agored i’r canlynol:
• Pobl sy'n byw gyda neu'n gofalu am rywun ag unrhyw fath o ddementia
• Wedi cael diagnosis mewn unrhyw ran o Gymru
• Ar unrhyw adeg
Mae’r astudiaeth ymchwil hon ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, fel holiadur ar-lein y gellir ei gwblhau yn eich cartref yn eich amser eich hun. Cyllidir yr astudiaeth gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR).
Mae'r holiaduron ar gael yn
Neu gallwch gysylltu â Dr Jen Roberts: E-bost: j.roberts@bangor.ac.uk / Ffôn: 01248 388021.