Prifysgol Âé¶¹Íø yn penodi Prif Swyddog Cyllid newydd
Mae Prifysgol Âé¶¹Íø wedi cyhoeddi bod Martyn Riddleston wedi ei benodi yn Brif Swyddog Cyllid newydd ac yn aelod o’r Pwyllgor Gweithredu.
Bydd Martyn yn dechrau yn y brifysgol ddydd Mawrth 1 Tachwedd, gan ymuno â ni o Brifysgol Caerlŷr lle bu’n Gyfarwyddwr Cyllid ac yn Brif Swyddog Cyllid am wyth mlynedd cyn cymryd portffolio ehangach fel Prif Swyddog Gweithredu yn 2020.
Bydd y swydd strategol allweddol hon yn gyfrifol am bob agwedd ar gynllunio a rheolaeth ariannol yn y brifysgol, gan chwarae rhan ganolog, fel aelod o’r Pwyllgor Gweithredu, yn natblygiad strategaeth y brifysgol dros y blynyddoedd allweddol nesaf.

Dywedodd Martyn: “Rwy’n falch iawn o gael ymuno â thîm Prifysgol Âé¶¹Íø ar adeg mor gyffrous. Mae hanes y brifysgol yn creu argraff ac mae wedi cael sawl llwyddiant yn ddiweddar. Rwy’n edrych ymlaen at gael chwarae fy rhan o fewn y brifysgol ac yn y gymuned wrth i ni geisio cyflawni’r strategaeth a gwireddu ein huchelgais ar gyfer y dyfodol.â€
Cyn dechrau ar yrfa sydd wedi para 20 mlynedd ym maes addysg uwch, bu Martyn yn gweithio i’r cwmni gwasanaethau proffesiynol ac ariannol rhyngwladol, KPMG.
Bydd cyfnod o drosglwyddo rhyngddo efo a Robert Eastwood sydd wedi bod yn Gyfarwyddwr Cyllid Dros Dro ym Mangor ers mis Mawrth 2020.
Mewn sylw ar benodiad Martyn, dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Edmund Burke: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu Martyn i’r rôl allweddol hon ym Mangor. Bydd ei arbenigedd yn ein helpu i sicrhau cynaliadwyedd ariannol mewn cyfnod sy’n parhau i fod yn heriol i’r sector addysg uwch.
“Ar ran y brifysgol a’n tîm cyllid hoffwn ddiolch i Rob am ei arweiniad a’i arbenigedd ers dechrau’r pandemig.â€