Mae syniad Dr Christian Dunn ar gyfer y Chester Wetland Centre (CWC) wedi cyrraedd y rhestr fer yn rownd derfynol gwobrau’r Landscape Institute, am .
Bydd y project yn arwain at greu ecosystemau gwlyptir gwerthfawr mewn parc gwledig poblogaidd ar gyrion Caer.
Yn ogystal â manteision y gwlyptir i fioamrywiaeth, bydd y project yn helpu i gael gwared ar lygredd mewn nant, ac yn cyfrannu at greu ystod o fuddion cymunedol ac addysgol.
Dr Dunn, sy’n Uwch-Ddarlithydd yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol 鶹, wnaeth feddwl am y syniad. Bu yn ei ddatblygu gydag aelodau o grŵp Friends of the Countess of Chester Country Park, lle bydd y gwlyptir yn cael ei ddatblygu.
The Land Trust sy’n berchen ar y parc, a nhw gomisiynodd y cwmni ymgynghori amgylcheddol, Binnies, i gwblhau’r astudiaeth ddichonoldeb a’r dyluniad amlinellol ar gyfer y ganolfan. Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr sy’n ariannu’r gwaith trwy gronfa arbennig i wella cyflwr amgylchedd dŵr.
Mae nifer o fyfyrwyr Prifysgol 鶹 wedi helpu i gasglu data hanfodol ar gyfer yr astudiaeth hon fel rhan o'u projectau ymchwil israddedig ac ôl-radd.

Dywedodd Dr Dunn: “Mae’n wych gweld y Chester Wetland Centre ar y rhestr fer mewn gwobr genedlaethol bwysig fel hon.
“Rwy'n falch iawn bod y syniad a gefais ychydig flynyddoedd yn ôl bellach wedi magu cymaint o fomentwm a bod cymaint o sefydliadau a phobl wych yn ei gefnogi.
“Wedi i’r gwaith gael ei orffen byddwn wedi creu cynefin gwlyptir gwych wrth ymyl yr ysbyty yng Nghaer y gall pobl ei fwynhau lle gall bywyd gwyll ffynnu.
“Mae’r ffaith bod myfyrwyr Prifysgol 鶹 wedi bod mor allweddol wrth fynd â’r maen i’r wal yn dangos pa mor wych yw ein myfyrwyr a pha mor dda yw eu hymchwil.”
“Rwy’n edrych ymlaen at gam nesaf y gwaith nawr, sef datblygu dyluniad manwl y ganolfan, a bydd ein myfyrwyr yn cymryd rhan yn y gwaith hwnnw hefyd,” ychwanegodd Dr Dunn.
Yn ogystal â’r Land Trust, Friends of the Countess of Chester Country Park, Binnies a Phrifysgol 鶹, rhai o brif bartneriaid eraill y project yw’r Environment Agency, Cheshire West and Chester Council a The Conservation Volunteers.