Âé¶¹Íø

Fy ngwlad:
Cynaeafu glaswellt mewn cae gyda thri thractor

Darganfod os allai sgil-gynnyrch cloroffyl fod yn ateb cynaliadwy i’r broblem gwerth £50 miliwn o falltod tatws 

Fel arbenigwyr mewn ymchwil ac arloesi ym maes technolegau bio-seiliedig, dyma lle camodd Canolfan Biogyfansoddion Prifysgol Âé¶¹Íø i’r adwy:

“Rydym wedi gweithio gyda’r Blankney Estates ers 2007 ar brosiectau amrywiol yn ymwneud â sut y gallwn ychwanegu gwerth at y glaswellt y maent yn ei dyfu. Rydym bellach yn falch iawn o ymestyn y berthynas hon diolch i gyllid gan DEFRA trwy Raglen Arloesi Ffermio Innovate UK, i asesu ymarferoldeb y cwyr glaswellt fel system bioreoli newydd gan ddefnyddio cyfuniad o dreialon mewn tai gwydr ac ar y safle.â€

esboniai Dr Adam Charlton o’r Ganolfan Biogyfansoddion, Prifysgol Âé¶¹Íø.

Mae'r prif opsiwn trin a rheoli ar gyfer malltod tatws hwyr yn cynnwys defnyddio cemegau gwrthffyngaidd yn rheolaidd, ond mae'r organeb Phytophthora infestans bellach yn gallu gwrthsefyll y rhan fwyaf o ffwngladdiadau synthetig, ac ar hyn o bryd ychydig iawn o opsiynau sydd ar gael i ddisodli'r rhain, â llawer ohonynt yn cael eu diddymu'n raddol o ganlyniad i ystyriaethau amgylcheddol.

Yr her arall yw pan gânt eu defnyddio gormod, mae ffwngladdiadau synthetig yn berygl i iechyd planhigion, anifeiliaid a phobl, a gallant gael effaith negyddol ar ecosystemau trwy gronni mewn priddoedd a chyrsiau dŵr.

Dywedwyd bod hyd at 20% o allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n gysylltiedig â chynhyrchu tatws yn deillio o allbynnau ynni sy'n gysylltiedig â chynhyrchu a defnyddio gwrtaith a ffwngladdiadau synthetig.

Ychwanegodd Dr Charlton, “Mae asiantau bioreolaeth yn ddewis amgen ac o bosibl, yn ddewis mwy cynaliadwy i'r ffwngladdiadau synthetig a ddefnyddir i frwydro yn erbyn pathogenau planhigion. Gallai’r prosiect hwn hefyd gyfrannu at yr ymrwymiad i gyrraedd allyriadau sero net erbyn 2050 drwy leihau costau mewnbwn ar gyfer triniaethau bio-seiliedig ar gyfer malltod tatws gan ddefnyddio’r ‘dull economi gylchol’ drwy defnyddio’r cynnyrch hwn sydd fel arall wedi’i wastraffu.â€

 

Rydym wrth ein boddau'n partneru gyda Chanolfan Biogyfansoddion Prifysgol Âé¶¹Íø ar brosiect cyffrous sy’n archwilio cymhwysiad a allai fod yn werthfawr ar gyfer ein ffrwd cwyr glaswellt ‘gwastraff’, sy’n cael ei gynhyrchu fel sgil-gynnyrch ein proses echdynnu cloroffyl. Fel y cynhyrchydd cloroffyl masnachol mwyaf yng Ngorllewin Ewrop, rydym wedi ymrwymo i ffermio yn y ffordd fwyaf amgylcheddol-gyfrifol, gan ddatgloi potensial llawn ein cnydau glaswellt a’n prosesau.

 

Stuart Parr,  Rheolwr Cyffredinol Blankney Estates