
Heno yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø, bydd y Coleg Cymraeg yn cyhoeddi Bwrsariaeth Cronfa LlÅ·r a sefydlwyd mewn cydweithrediad gyda theulu’r diweddar Dr LlÅ·r Roberts a Phrifysgol Âé¶¹Íø i gefnogi myfyrwyr gyda’u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg.
Bydd y fwrsariaeth ar gyfer myfyrwyr israddedig sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg mewn unrhyw bwnc ac yn noddi taith at bwrpas sy’n gysylltiedig â’u hastudiaethau ac sydd â pherthnasedd i’r Gymraeg neu Astudiaethau Cymreig.
Bwriedir dyfarnu hyd at £2,000 yn flynyddol gyda hyd at bedwar dyfarniad o tua £500 i bob myfyriwr buddugol.
Sefydlwyd y fwrsariaeth i gofio am Dr LlÅ·r Roberts, oedd yn ddarlithydd yn Ysgol Busnes Âé¶¹Íø ac un o ddarlithwyr cysylltiol cyntaf a disgleiriaf y Coleg Cymraeg a fu farw’n sydyn ym Mehefin 2023 yn 45 mlwydd oed.
Ar y noson bydd Dr Dafydd Trystan, Cyfarwyddwr Datblygu Strategol ac Addysg Bellach a Chofrestrydd y Coleg Cymraeg, yn talu teyrnged i Llŷr yng nghwmni ei deulu, cyfeillion, a’i gydweithwyr. Meddai Dr Trystan:
“Roedd LlÅ·r yn gyfaill ac yn gydweithiwr annwyl iawn. Fe oedd un o’r Darlithwyr Cysylltiol cyntaf i gael ei benodi i swydd dan nawdd y Coleg Cymraeg. Aeth ymlaen i wneud cyfraniad amlweddog i addysg uwch cyfrwng Cymraeg ym maes Busnes ym Mhrifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac yn fwyaf diweddar, ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø.
“Mewn amser byr gwnaeth Llŷr argraff fawr ar ei gyd-weithwyr a’i fyfyrwyr. Yn 2022, enillodd wobr gan y Coleg am Adnodd Rhagorol am greu’r e-lyfr cyntaf ym maes Marchnata yn yr iaith Gymraeg.
“Roedd LlÅ·r yn angerddol am yr iaith Gymraeg, am astudiaethau busnes a marchnata, am gerddoriaeth ac am deithio. Mae ei waddol yn glir, ac mae’n briodol ein bod wedi sefydlu’r fwrsariaeth yma i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr gyda’u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg.â€

Fel rhan o’r noson bydd y Coleg Cymraeg yn urddo tri Chymrawd er Anrhydedd, dau ohonynt gyda Chysylltiadau agos â Phrifysgol Âé¶¹Íø, am gyfraniad oes tuag at addysg ol-orfodol cyfrwng Cymraeg, ac yn cyflwyno tystysgrifau i fyfyrwyr PhD am gyflawni doethuriaeth o dan nawdd Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg.
Y tri Cymrawd er Anrhydedd fydd:
- Yr Athro Delyth Prys, cyn-bennaeth yr Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol Âé¶¹Íø;
- Wyn Thomas, a fu’n allweddol yn datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ym maes Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø;
- Linda Wyn, cyn-bennaeth Coleg Meirion Dwyfor a Choleg Menai o fewn Grŵp Llandrillo Menai.
Ymysg y myfyriwr PhD fydd yn derbyn eu tystysgrifau gan y Coleg eleni mae tri o Fangor:
- Dr Seren Evans, Gwyddorau Chwaraeon, Prifysgol Âé¶¹Íø
- Dr Ianto Gruffudd, Cymraeg, Prifysgol Caerdydd
- Dr Cennydd Jones, Amaethyddiaeth, Prifysgol Aberystwyth
- Dr Lucy Hale Evans, Gwyddorau Amgylcheddol, Prifysgol Âé¶¹Íø
- Dr Claire Griffith-Mcgeever, Gwyddorau Chwaraeon, Prifysgol Âé¶¹Íø
- Dr Marc Williams, Seicoleg, Prifysgol Caerdydd
- Dr Sioned Llywelyn, Daearyddiaeth, Prifysgol Aberystwyth
- Dr Gruffydd Lloyd Jones, Gwyddorau Amgylcheddol, Prifysgol Aberystwyth
Gwahoddir ceisiadau am Fwrsariaeth Cronfa Llŷr yn ystod tymor yr haf gyda’r bwriad i gyhoeddi’r enillwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym mis Awst. Bydd rhagor o wybodaeth gan gynnwys y ffurflen gais i ymgeisio am y fwrsariaeth ar wefan y Coleg Cymraeg yn fuan.
Gellir darllen am y Cymrodyr er Anrhydedd a’r myfyrwyr PhD .