Mae Dr Iestyn Woolway o Brifysgol Âé¶¹Íø yn gweithio gyda phartneriaid ar brototeip o'r enw EcoTwin, a fyddai'n galluogi creu'r genhedlaeth nesaf o atgynhyrchiadau rhithwir o lynnoedd.
Mae'r gwyddonydd hinsawdd, sydd wedi ennill sawl gwobr, yn arwain y project ymchwil rhyngwladol, sy'n gydweithrediad rhwng gwyddonwyr yn y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Sweden, Iwerddon, yr Iseldiroedd a Hwngari.
Nod EcoTwin yw gwella sut caiff gwasanaethau ecosystemau eu hintegreiddio wrth reoli adnoddau dŵr yn radical, gyda ffocws sylfaenol ar reoleiddio llifogydd a sychder, darparu cynefinoedd, hamdden, cyflenwad dŵr, a rheoli carbon a maetholion.
Mae EcoTwin yn defnyddio pŵer Efeilliaid Digidol, sy'n cynrychioli atgynhyrchiadau rhithwir o systemau ffisegol. Maent yn cael eu diweddaru'n barhaus mewn amser real, gan alluogi efelychiadau soffistigedig a dadansoddiad manwl.
Eu mantais nodedig yw eu gallu i ddod ag ystod eang o ffynonellau data ynghyd. Mae'r rhain yn cynnwys Arsylwi'r Ddaear, arsylwadau in-situ, ac amrywiol fodelau, i gynhyrchu efelychiadau manwl gywir o ecosystemau dyfrol.
Mae Efelliaid Digidol yn ein galluogi i archwilio sut mae llynnoedd yn ymateb i amodau
amgylcheddol newidiol, dylanwadau dynol, a strategaethau rheoli. Y tu hwnt i hynny, maent yn hyrwyddo gwell cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid trwy ddarparu delweddiadau a senarios sy'n sail i wneud penderfyniadau gwybodus.
Mae hyn yn galluogi rhagolygon tymor byr ac yn hwyluso asesiadau senarios tymor hir, a hynny i gyd wrth wella ymgysylltiad y cyhoedd.

Dywedodd Dr Iestyn Woolway, sy'n Gymrawd Ymchwil Annibynnol Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø, “Mae llynnoedd, fel elfennau hollbwysig o’n hamgylchedd naturiol, yn cyfrannu’n amhrisiadwy at gymdeithas drwy gynnig amrywiaeth eang o wasanaethau ecosystem, yn amrywio o reoleiddio llifogydd a sychder, i hamdden, darparu cynefinoedd, a chyflenwad dŵr yfed.
"Fodd bynnag, mae effeithiau cynyddol newid hinsawdd yn peri bygythiad uniongyrchol a difrifol i wytnwch ecosystemau llynnoedd, gan orfodi'r angen i fabwysiadu technoleg a methodolegau uwch i atgyfnerthu ein dealltwriaeth, ein rheolaeth, a'n hymdrechion cadwraeth hirdymor."
“Mae’r project hwn yn cynrychioli shifft o astudiaethau maes a dulliau monitro traddodiadol tuag at ddull deinamig, integredig, a bron mewn amser real, o asesu gwasanaethau ecosystemau.
“Mewn ymateb i’r her hollbwysig hon, mae EcoTwin yn manteisio ar bŵer Efeilliaid Digidol fel offeryn trawsnewidiol. Mae'n cynnig ateb newydd a chynhwysfawr i heriau byd-eang dybryd o fewn y gwasanaethau ecosystem.â€
Mae'r project ar Wasanaethau Ecosystemau Dyfrol wedi derbyn £1.7 miliwn o'r rhaglen ariannu ymchwil wyddonol mewn dŵr croyw, EUR Water4All.