Mae canlyniadau Complete University Guide 2026 ar gyfer Prifysgol Âé¶¹Íø wedi'u cyhoeddi.
Mae Âé¶¹Íø wedi dringo 13 safle, o 68 i 55 (allan o 130) yn nhabl cynghrair y Complete University Guide.
Mae perfformiad yn ganlyniad i welliannau a sicrhawyd yn y dangosydd Boddhad Myfyrwyr, sydd wedi’i seilio ar ganlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr ar gyfer 2024. Mae'r dangosydd hwn wedi gwella 4% ers y llynedd, ac mae'r Brifysgol bellach yn y 69ain safle (i fyny 43 lle). Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys bod yn yr ugain uchaf ar gyfer gwariant cyfleusterau, a’r deugain uchaf ar gyfer ansawdd ymchwil.
Mae Âé¶¹Íø bellach yn 4ydd yng Nghymru allan o 8 prifysgol, cynnydd o 1 safle. Yr uchafbwyntiau yng Nghymru, yw bod Âé¶¹Íø yn ail yng Nghymru am wariant cyfleusterau, a'r ail am ansawdd ymchwil.
Astudiaethau Iechyd yw’r pwnc gyda'r radd gorau, gyda’r pwnc yn hawlio’r 4ydd safle (allan o 35). Mae Addysg yn perfformio'n arbennig o gryf yn gyffredinol, gan ddod yn yr 8fed safle yn erbyn 91 o sefydliadau oedd wedi'u rhestru.
Dywedodd y Dirprwy Is-Ganghellor dros Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, yr Athro Nichola Callow:
“Ym Mangor rydym wedi ymrwymo i gyflwyno cyrsiau sy’n ysgogi, yn herio, ac wedi’u cynllunio i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer llwyddo yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
“Rydym yn falch o weld cynnydd o 4% ym modlonrwydd myfyrwyr a’n bod wedi dringo tair safle ar ddeg safle yn uwch yn y rhestrau cenedlaethol. Mae’r canlyniadau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i ddarparu profiad o ansawdd uchel i’n myfyrwyr, ymchwil ragorol, a chanlyniadau graddedigion cryf. Gyda rhestrau rhagorol mewn cyfleusterau a phwnc addysg, mae Âé¶¹Íø yn parhau i adeiladu ar ei chryfderau ar draws y bwrdd.â€
Meysydd perfformiad pwnc
Pynciau sy'n perfformio cryfaf eleni yn y Canllaw Prifysgolion Cyflawn (yn y 25% uchaf):
Safle cyffredinol
- Addysg (yn 8fed allan o 91)
- Technoleg Feddygol a Biobeirianneg (yn 5ed allan o 44)
- Astudiaethau Iechyd (yn 4ydd allan o 35)
- Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid (5ed allan o 42)
- Celf a Dylunio (Cyrsiau dylunio cynnyrch) (14eg allan o 83)
- Cerddoriaeth (20fed allan o 80)
Safonau mynediad (pwyntiau tariff UCAS cyfartalog ar gyfer newydd-ddyfodiaid israddedig
- Plentyndod ac Astudiaethau Ieuenctid (3ydd allan o 41)
- Technoleg Feddygol a Biobeirianneg (cyrsiau Radiograffeg) (10fed allan o 41)
- Addysg (cyrsiau hyfforddi athrawon) (17eg allan o 91)
- Marchnata (20fed allan o 89)
Rhagolygon Graddedigion – canlyniadau (cyfran y graddedigion mewn cyflogaethau lefel broffesiynol, ac astudiaethau pellach Addysg Uwch):
- Technoleg feddygol a biobeirianneg (safle 1 allan o 40)
- Polisi Cymdeithasol 7fed (allan o 35)
- Nyrsio a Bydwreigiaeth (yn 6fed allan o 77)
- Cerddoriaeth (yn 16eg allan o 69)
Rhagolygon Graddedigion – ar y trywydd iawn (Cyfran y graddedigion a gytunodd fod eu gweithgaredd ar ôl graddio ar y trywydd iawn gyda'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol):
- Cerddoriaeth (yn 3ydd allan o 68)
- Daearyddiaeth a gwyddor amgylcheddol (yn 10fed allan o 72)
- Celf a Dylunio (cyrsiau dylunio cynnyrch) (17eg allan o 83)
- Addysg (cyrsiau hyfforddi athrawon) (20fed allan o 87)
Parhad (cyfraddau cadw, graddio a throsglwyddo myfyrwyr blwyddyn gyntaf):
- Technoleg feddygol a biobeirianneg (yn 1af allan o 44)
- Astudiaethau iechyd (yn 1af allan o 33)
- Addysg (yn 4ydd allan o 91)
- Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid (7fed allan o 42)
- Hanes (19eg allan o 90)
- Cyfrifiadureg (27ain allan o 117)
Ansawdd yr ymchwil:
- Astudiaethau iechyd (yn 1af allan o 29)
- Amaethyddiaeth a Choedwigaeth (2il allan o 14)
- Gwyddor Chwaraeon (yn 3ydd allan o 80)
- Gwyddorau biolegol (yn 7fed allan o 85)
- Gwyddorau biofeddygol (yn 8fed allan o 76)
- Technoleg Feddygol a Biobeirianneg (cyrsiau Radiograffeg) (9fed allan o 35)
- Nyrsio a Bydwreigiaeth (13eg allan o 76)
- Daearyddiaeth a Gwyddorau'r Amgylchedd (15fed allan o 69)
Boddhad myfyrwyr:
- Celf a dylunio (yn 1af allan o 83)
- Amaethyddiaeth a Choedwigaeth (3ydd allan o 17)
- Athroniaeth (5ed allan o 45)
- Cyfrifiadureg (yn 7fed allan o 116)
- Peirianneg Drydanol ac Electronig (8fed allan o 72)
- Cymdeithaseg (15fed allan o 101)
Ewch am y dadansoddiad llawn.