Fy ngwlad:
""

Cyrsiau Byr a Hyfforddiant DPP

Ehangwch eich sgiliau, archwiliwch bynciau newydd, neu cymrwch y cam nesaf yn eich gyrfa gyda chyrsiau byr a DPP Prifysgol 鶹. P’un a ydych yn edrych am gyrsiau byrion, cymhwyster proffesiynol, neu’r cam gyntaf tuag at radd, rydym yn cynnig ystod o gyfleoedd sydd wedi’u cynllunio i ffitio o amgylch eich ymrwymiadau chi.

Os ydych chi’n ddysgwr unigol neu’n fusnes sy’n awyddus i fuddsoddi mewn datblygiad staff, rydym yma i’ch helpu. Porwch ein cyrsiau heddiw neu gwnewch gais i gyfarfod aelod o’r tîm er mwyn trafod cyfleoedd hyfforddi pwrpasol.

Hyblyg a Hygyrch – Astudiwch ar-lein neu ar y campws, gyda rhai cyrsiau wedi’u teilwra i’ch amserlen chi.
Dysgwch gan Arbenigwyr – Dysgwch gan academyddion a gweithwyr proffesiynol y diwydiant.
Cydnabyddedig ac Achrededig – Mae micro-gymwysterau a thystysgrifau DPP yn ffordd effeithiol o dystiolaethu eich dysgu.
Ffocws ar Ddysgu Gydol Oes – Mae dysgu gydol oes, hygyrch yn ganolog i’n darpariaeth - o uwchsgilio yn y gweithle i ddatblygiad personol.

Cyrsiau Byr a Micro-gymwysterau – Cymwysterau cydnabyddedig ar gyfer datblygiad proffesiynol a phersonol sy’n deillio o’n rhaglenni gradd.
Hyfforddiant DPP – Ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n dymuno uwchsgilio, ailsgilio, neu ennill oriau a thystysgrifau DPP.
Dosbarthiadau Nos, Cyrsiau Ar-lein ac Ysgolion Haf – Opsiynau hyblyg ac amrywiol.
MOOCs – Cyrsiau ar-lein, am ddim i ehangu eich gwybodaeth.
Hyfforddiant pwrpasol i Fusnesau – Rhaglenni wedi’u teilwra i helpu sefydliadau i ddatblygu arweinyddiaeth, mynd i’r afael â heriau sector, ac uwchsgilio’r gweithlu.

Fideo: Short Courses promo 2025

Croeso i Brifysgol 鶹, lle rydym yn rhagori mewn cyfleoedd dysgu gydol oes hyblyg.

0:00

Ydych chi'n barod i ddatblygu eich sgiliau,

0:08

i roi hwb i’ch gyrfa,

0:09

neu’n syml iawn, ydych chi’n awyddus i ddysgu rhywbeth newydd?

0:10

Mae ein Cyrsiau Byr a’n rhaglenni Datblygiad Proffesiynol

0:13

wedi eu dylunio i ffitio o’ch amgylch chi.

0:17

Gallwch ddysgu wrth eich pwysau ac ar eich telerau eich hun.

0:22

Mae dewis eang o bynciau ar gael ar-lein

0:23

neu yma ar ein campws ym Mangor.

0:27

Ymunwch â chymuned o ddysgwyr brwd

0:29

a manteisiwch ar ein tiwtoriaid rhagorol.

0:30

Ewch draw i’r wefan heddiw,

0:33

a daliwch ati i ddysgu efo Prifysgol 鶹.
 

0:35

Ein Cyrsiau

Addysg Weithredol:

Mae Addysg Weithredol Ysgol Busnes 鶹 yn cynnig ystod o raglenni dysgu o bell arloesol. Mae'r holl fodiwlau ar y MBA Bancwr Siartredig a'r MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol ar gael i'w hastudio fel modiwl annibynnol.

Wedi'i anelu at weithwyr proffesiynol canol gyrfa sy'n gweithio yn y diwydiant gwasanaethau ariannol neu reoleiddio. Rhoddir ystyriaeth i unigolion sydd ag ychydig iawn o brofiad neu gymwysterau.

Modiwlau ôl-raddedig sy'n cynnwys credydau 

 

Micro-gymwysterau:

Seicoleg Perfformiad Unigol  

Y Ddeuad Hyfforddi

PERFFORMIO DAN BWYSAU  

HYFFORDDIANT SGILIAU SEICOLEGOL

Deall Personoliaeth

Seicoleg Perfformiad Tîm

Micro-gymwysterau:

CYNLLUNIO IEITHYDDOL

Cwrs di-gredyd:


 

Mae Ieithoedd i Bawb yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau gyda’r nos mewn tair iaith:

Ffrangeg

Sbaeneg

Tsieinëeg (Mandarin)

Mae’r cyrsiau iaith 10 wythnos hyn wedi’u cynllunio i weddu i amrywiaeth o lefelau – o ddechreuwyr llwyr i ddysgwyr sydd am adnewyddu sgiliau iaith sydd wedi darfod neu barhau o astudiaethau TGAU/UG.

Mae dysgu iaith yn weithgaredd pleserus a heriol, ac yn eich annog i ehangu eich gorwelion, agor drysau i ddiwylliannau eraill ac ehangu eich cylch cymdeithasol.

Mae’r dosbarthiadau wedi’u cynllunio i weddu i amrywiaeth o lefelau – o ddechreuwyr llwyr (A1) i ddysgwyr uwch (B1) sy’n dymuno datblygu eu sgiliau iaith. Gallwch ddarganfod mwy am y lefelau gwahanol yma.

Bydd y modiwlau ar gael ar sail archwilio yn unig – hynny yw, ni fydd unrhyw asesiad ffurfiol o’r modiwl ac ni fydd unrhyw gredydau’n cael eu dyfarnu ar ôl cwblhau’r modiwl.

Cynhelir cyrsiau yn amodol ar niferoedd lleiaf. Mae rhai cyrsiau’n boblogaidd iawn – os bydd cyrsiau’n orlawn, bydd cofrestru’n cael ei weithredu ar sail y cyntaf i’r felin. Yr oedran lleiaf yw 18.

Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin – Cyrsiau i Bob Lefel

P’un a ydych chi’n ddechreuwr neu’n awyddus i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg ymhellach, mae Prifysgol 鶹 yn cynnig rhaglen strwythuredig ac effeithiol i gefnogi oedolion sy’n dysgu Cymraeg.

  • Mynediad – Yn cyflwyno geirfa, patrymau iaith sylfaenol ac ymadroddion pob dydd, gyda phwyslais ar siarad yr iaith.
  • Lefelau Eraill – Mae cyrsiau lefelau eraill yn cynnwys cyrsiau Mynediad Lefel 2, Sylfaen, Canolradd, ac Lefel Uwch 1, 2 a 3. Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau gloywi sydd wedi’u teilwra ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd sydd wedi cwblhau lefel Uwch. Nod cyffredinol y cyrsiau ydy datblygu sgiliau siaradwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus.
    Cynhelir cyrsiau mewn cymunedau ar draws Gwynedd, Môn a Chonwy, yn ogystal ag ar-lein ar wahanol adegau i gyd-fynd â’ch anghenion.

I gofrestru ewch i a dilyn dolen 'dod o hyd i gwrs'.

Cysylltwch am wybodaeth bellach: 01248 383928 /  dysgucymraeg@bangor.ac.uk

Cyrsiau Di-gredyd

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gyrsiau yn rhedeg yn y pwnc.

Dilynwch ni ar Instagram