Mae ymhlith yr ymchwilwyr iechyd a gofal mwyaf blaenllaw a chlodfawr yn y wlad. Mae gan y rhai a ddewiswyd oll hanes o ddatblygu ymchwilwyr ac adeiladu gallu a chapasiti ymchwil Cymru, yn ogystal ag integreiddio cyfranogiad cleifion a'r cyhoedd mewn ymchwil.
Wedi'u rheoli a'u cefnogi gan , bydd yr Uwch Arweinwyr Ymchwil yn parhau i neilltuo amser i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau'r Gyfadran, gan gynnwys paneli cyllido, byrddau a phwyllgorau.
Y ddau Uwch Arweinydd Ymchwil o Brifysgol Âé¶¹Íø yw yr Athro Jane Noyes, sy’n Athro ymchwil mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a iechyd plant, yn ogystal â’r Athro Gill Windle, Cyfarwyddwr Effaith a Chysylltiad o Ysgol Gwyddorau Iechyd.
Dywedodd yr Athro Jane Noyes:
“Rwy'n falch o dderbyn gwobr arweinydd ymchwil uwch er mwyn i mi barhau i helpu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn eu hymgyrch i ddarparu rhagoriaeth mewn ymchwil a chreu capasiti mewn talent newydd.â€

Dywedodd yr Athro Gill Windle:
“Mae'n anrhydedd cynrychioli Prifysgol Âé¶¹Íø fel arweinydd ymchwil uwch Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at ddefnyddio fy ngwobr i gefnogi datblygiad gyrfa arweinwyr ymchwil yn y dyfodol yn y maes heneiddio a dementia, er mwyn sicrhau ein bod yn lle da i fynd i'r afael â rhai o'r heriau mawr yng Nghymru a thu hwnt.â€

Dywedodd Gareth Cross, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwyddoniaeth, Ymchwil a Thystiolaeth Llywodraeth Cymru: "Gwnaeth cynnydd amgylchedd ymchwil Cymru argraff fawr ar y panel; roedd nifer o aelodau'r panel wedi eistedd ar baneli dyfarnu Uwch Arweinwyr Ymchwil blaenorol a nodwyd fod cynnydd mawr yn cael ei wneud yn hyn o beth. Roedd ystod y ceisiadau'n rhagorol.
"Bydd arbenigedd ac ymroddiad yr Uwch Arweinwyr Ymchwil yn allweddol wrth feithrin arloesedd, cydweithredu a rhagoriaeth yn ein cymuned ymchwil, ac edrychwn ymlaen at weld y cyfraniadau gwerthfawr y byddant yn eu gwneud dros y tair blynedd nesaf."
Ewch i wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i weld y